Thursday 3 June 2010

Bechod drosto fo....yndi??

Mae'n debyg os ydych yn gweithio i'r bbc mai'r ateb i'r cwestiwn hwn ydi "yndi, bechod drosto fo". Rwan, fy ateb syml i ydi, nacydi. Does na ddim owns o biti dros y diawl. Son ydwi wrth gwrs am David Laws, cyn aelod o'r llywodraeth yn Llundain sydd bellach yn ol ar y meinciau cefn fel AS Lib Dems.

Sgen i ddim sionyn o otch fod David Laws yn hoyw. Y broblem sydd gen i hefo fo ydi fod o wedi dwyn arian cyhoeddus tra yn byw hefo'i gariad.....a pham...wel er mwyn neud siwr na fyddai rhieni yn gwybod ei fod yn hoyw!

Gwarthus.

Be sydd yn waeth ydi'r ffordd mae'r bbc yn peintio'r dyn yma fel arwr. Do, mi wnaeth o yn dda iawn yn ifanc fel banciwr, ond tydi hynnu ddim yn rhoi hawl iddo gymeryd arian cyhoeddus a'i roi i'w gariad!

Er cofiwch, chwarae teg iddo, natho o ddim cymeryd £18 mil oedd yn daladwy iddo wrth adl ei swydd fel aelod o'r llywodraeth. Eh!! Chwarare teg wir! Doedd o heb fod yno ddim ond am bythefnos!

David Laws, os wyt ti wir yn sorri am be ti di wneud, mi wnei dalu yn ol yr holl rent ti wedi ei gymeryd o'r wlad i dalu dy gariad.

Wedyn, dim ond wedyn, wrach gai rhywfaint o barch atat.

BBC - da chi ddim werth ceiniog o'r araian da chi godi arnaf i watchad eich rwtch, ond o ni gwybod hynnu cyn rwan.


Gyda'n gilydd dros Gymru,

Y Blogiwr Cymraeg.

1 comment:

  1. Y lleiaf o restr hir pechodau'r Bib ydi cefnogi David Laws.

    ReplyDelete