Thursday 3 June 2010

Bechod drosto fo....yndi??

Mae'n debyg os ydych yn gweithio i'r bbc mai'r ateb i'r cwestiwn hwn ydi "yndi, bechod drosto fo". Rwan, fy ateb syml i ydi, nacydi. Does na ddim owns o biti dros y diawl. Son ydwi wrth gwrs am David Laws, cyn aelod o'r llywodraeth yn Llundain sydd bellach yn ol ar y meinciau cefn fel AS Lib Dems.

Sgen i ddim sionyn o otch fod David Laws yn hoyw. Y broblem sydd gen i hefo fo ydi fod o wedi dwyn arian cyhoeddus tra yn byw hefo'i gariad.....a pham...wel er mwyn neud siwr na fyddai rhieni yn gwybod ei fod yn hoyw!

Gwarthus.

Be sydd yn waeth ydi'r ffordd mae'r bbc yn peintio'r dyn yma fel arwr. Do, mi wnaeth o yn dda iawn yn ifanc fel banciwr, ond tydi hynnu ddim yn rhoi hawl iddo gymeryd arian cyhoeddus a'i roi i'w gariad!

Er cofiwch, chwarae teg iddo, natho o ddim cymeryd £18 mil oedd yn daladwy iddo wrth adl ei swydd fel aelod o'r llywodraeth. Eh!! Chwarare teg wir! Doedd o heb fod yno ddim ond am bythefnos!

David Laws, os wyt ti wir yn sorri am be ti di wneud, mi wnei dalu yn ol yr holl rent ti wedi ei gymeryd o'r wlad i dalu dy gariad.

Wedyn, dim ond wedyn, wrach gai rhywfaint o barch atat.

BBC - da chi ddim werth ceiniog o'r araian da chi godi arnaf i watchad eich rwtch, ond o ni gwybod hynnu cyn rwan.


Gyda'n gilydd dros Gymru,

Y Blogiwr Cymraeg.

Tuesday 25 May 2010

Petha gwell i neud na magu teulu?

Wel, mae'n debyg fod hyn yn fwy gwir nag erioed wrth edrych ar y ffigyrau diweddar ar raddfa genidigaeth yng Orllewin Ewrop. Yr Almaenwyr mae'n debyg sydd yn effeithio y ffigyrau fwyaf ond beth am yn nes adref?

Wel ym Mhrydain cafwyd 706,248 genedigaeth yn ystod 2009 oi gymharu ag 708,711 yn ystod 2008. Gostyniad bach iawn felly sydd yn groes i beth sydd wedi bod yn digwydd yn y degawd diwethaf. Yn 1999, cafwyd 621,872 genedigaeth.

Beth sydd yn dal i newid ag yn bownd o boeni ein ffrinidau saesnig ydi pwy ymysg y boblogaeth sydd yn rhoi genedigaeth. Na, dim son am straeon a am famau ifanc ydwi yma, yn wir mae nw yn bahafio yn well yn ddiweddar: lawr 5,000 i 43,000 yn 2009.

Yn hytrach son ydwi am un o hoff pynciau y daily mail gwarthus sef genedigaethau i famau sydd yn dod o du allan i'r DU. Bellach mae 24.7% o blant yn cael ei geni i famau cafodd eu hunain eu geni y tu allan i'r DU o gymharu a 14.3% yn 1999. Ydi hyn yn broblem? I mi nadi ond yn anffodus i lawer bydd yn petrol ar dan hull pleidiau Llundain.

Rwan beth am Gymru fach? Wel da ni ychydig tu ol i gyfartaledd y DU gyda Ynys Mon ymysg y radffa uchaf a Cheredigion yn isel dros ben.

Felly bobl annwyl ceredigion, plis, yn lle fotio i'r Lib Dems eto a rhoi ni gyd dan lywodraeth Doriaidd, pam ddim helpu Cymru i godi yn uwch na'r DU drwy rhoi genedigaeth i fwy o blant Cymraeg?!? Na? wel o leiaf pleidleiswch yn gallach tro nesaf.

Gyda'n gilydd dros Gymru,

Y Blogiwr Cymraeg

Wednesday 19 May 2010

Stiwdants, Blydi Stiwdants!

Mae'n na ddipyn o flynyddoedd di pasio bellach ers pan o ni yn un o'r diawliad stiwdants 'ma a diolch byth am hynnu! Mae meddwl am gario dyled fyddai'n tynnu at £30 mil yn 21 oed yn frawychus......er cofiwch chi, sa ufad llai, bwyta'n gall a gwario llai ar gadgets yn cynilo dipyn ar ddyledion rhai ohonynt!

Rwan, dim blog am ddyledion stiwdants ydi hwn heddiw ond darn i gwestiynnu a ddylai stiwdants bleidleisio yn etholaeth y brifysgol neu yn etholaeth ei cartrefi. Mae'r ateb mae'n debyg yn mynd i wahanu barn ar dir gwlad ond mae'n bwysig ystyried rhai feithiau. Yn wir, mewn etholaethau lle mae'r boblogaeth yn isel ag o dan y drefn FPTP sydd ganddo ni, fe all criw o stiwdants newid canlyniad etholiad yn llwyr.

Os gai, dwi am ddefnyddio Aberystwyth fel tref i drafod gan obeithio na fydd yr un o drigolion Ceredigion yn malio fod na un or gogledd yn busnesu!

Yn ol gwefan Aber Info, roedd poblogaeth Aberystwyth yn ystod 2008 yn 12,258. Yn ystod blwyddyn academaidd 2007/08 roedd gan brifysgol Aberystwyth 13,260 o stiwdants ar eu cyrsiau. O hein roedd 7,820 yn llawn amser ar gweddill yn rhan amser. Mae'n debyg fod canran o tua 30% o'r stiwdants yn byw yn lleol felly gellir nodi cynydd yn y boblogaeth o 75% yn ystod tymor y coleg.

Rwan, da ni gyd yn gwybod na tydi ein stiwdants druan ni yn gweithio blwyddyn llawn. Mae'n debyg fod blwyddyn academaidd yn parhau am tua 35 wythnos o'r flwyddyn sy'n gadael 17 wythnos bach neis o wyliau! Braf de.

Mewn unrhyw flwyddyn etholiad, mae poblogaeth y stiwdants am fyw hefo'r canlyniad am wahanol gyfnod o amser h.y. os am fod yn syml:

Blwyddyn gyntaf: Am dreulio 3 blynedd arall yno (105 wythnos)
Ail flwyddyn: Am dreulio 2 flynedd arall yno (70 wythnos)
Trydydd flwyddyn: Am dreulio 1 flwyddyn arall yno (35 wythnos)

Felly, gyda 9,282 o stiwdants yn Aberystwyth sydd ddim yn byw yn lleol (70% or stiwdants i gyd) a gan nodi yn syml fod yna yr un nifer ym mhob blwyddyn academaidd (3,094) gellir dod i'r canlyniadau fod yr AS yn Aberystywth yn cael ei ethol gan:

- 14% or boblogaeth sydd mond yn byw yno am 40% or tymor seneddol o 5 mlynedd
- 14% or bobologaeth sydd mond yn byw yno am 27% or tymor seneddol o 5 mlynedd
- 14% or boblogaeth sydd mond yn byw yno am 13% or tymor seneddol o 5 mlynedd

Mewn geiriau eraill, mae'r stiwdants yn cael 9,282 o bleidleisiau (43% or cyfanswm) er nad ydi'r rhai sydd ar hawl i bleidleisio mewn unrhyw un etholiad yn byw yno ddim ond am 27% o gyfnod seneddol o 5 mlyndedd.

I mi, dylai'r stiwdants felly gael pleidlais bost a pleidleisio yn eu heolaeth eu hunain. Dim ond dechrau ar y ddadl ydwi yma. Gellir mynd yn bellach a dadlau fod gan stiwdants deddiad i bleidleisio at un blaid neu gilydd etc... yn aml at y Lib Dems gyda canlyniad trychinebus o gael y toriad mewn pwer!

Dwi yn barod i ddarllen i'r gwrthwyneb os oes na stiwdant neu wrth gwrs unrhyw un arall allan yn fana yn anhytuno a mi....

Gyda'n gilydd dros Gymru,

Y Blogiwr Cymraeg

Sunday 16 May 2010

APV, STV neu FPTP? Pwy sa'n ennil be?

Heb os nag oni bai, am wlad sy'n mynd rownd y byd i ddeud wrth eraill am fyw yn rhydd a democratiaeth, mae system etholiadol Prydain yn warthus o wael. Mae'n system sy'n cau allan pleidiau bach, yn system sy'n gwneud mewn amryw o seddi fotio yn erbyn llafur neu y toriaid yn wastraff ag mae'n system sy'n cynhyrchu canlyniadau od iawn.
Rwan, fedrai ddim dioddef y Cameron gwirion 'ma ond fedrai ddallt pam efallai i fod o mynd i'w wely yn flin ar ol etholiad 2010 a hynnu oherwydd y ffeithiau yma:

Etholiad 2005:
Llafur 35.3% ag ennill 356 sedd
Toriaid 32.3% ag ennill 198 sedd

Etholiad 2010
Llafur 29.0% ag ennill 258 sedd
Toriaid 36.1% ag ennill 306 sedd

Wrth gwrs, fedrith Cameron fawr gwyno chwaith achos mae'r system wedi gweithio yn dda iddyn nhw mewn etholiadau eraill....dyna yn wir pam nad ydynt ishio newid y drefn.

Felly, os di'r system ddim yn gweithio pa optiynau eraill sydd? Mae yna nifer lawer wrth gwrs a dwi ddim am fynd mewn i drafod yr un yn y blog yma (ddim heddiw beth bynnag!!) dim ond i ddweud fod dadl am ag yn erbyn pob system on mae rhai yn sicr yn fwy teg nag eraill. Os a diddordeb mae'r wefan http://www.electoral-reform.org.uk werth golwg.

Be dwi ishio neud heddiw ydi sbio ar pa effaith fasa y 2 system sydd yn cael eu son amdanynt ar hyn o bryd wedi ei gael ar ganlyniad 2010 yma yn ein gwlad fach ni gyda help y wefan dwi wedi son amdani yn barod.

System First Past the Post (canlyniad fel ag y mae o)
Llafur 26
Toriaid 8
Lib Dem 3
Plaid Cymru 3
Arall 0

System Alternative Vote AV
Llafur 25
Toriaid 6
Lib Dem 6
Plaid Cymru 3
Arall 0

System Single Transferable Vote STV
Llafur 16
Toriaid 10
Lib Dem 10
Plaid Cymru 4
Arall 0

Yn glir iawn felly, yma yng Nghymru, mae FPTP yn ffafrio y blaid Lafur yn fawr iawn. Pa system fyddai orau? Blog arall fydd son am hynnu ond yn sicr mae yn bryd am newid. Dwi am orfen hefo syniad o'r canlyniad dan system hollol gyfrannol:

Llafur 14
Toriaid 10
Lib Dem 8
Plaid Cymru 5
Arall 3

Gyda'n gilydd dros Gymru,

Y Blogiwr Cymraeg

Thursday 13 May 2010

Perfformiad Plaid yn yr Etholiad

Gan mai hwn ydi y blog cyntaf i mi ei 'sgwnnu, gai ymddiheuro o flaen llaw am safon wael fy iaith! Gobeithio y neith pethau wella wrth i mi 'sgwnnu ar hwn yn rheolaidd uda i!!

Yn ol at perfformiad plaid ta a dylwn i neud yn glir fy mod i yn aelod ag yn efnogi’r blaid! Wel wrth edrych ar yr stats am y tro cyntaf effallai y gellir casglu na wnaeth y blaid mor ddrwg a hynnu....yn wir mae blog menai (oclmenai.blogspot) yn codi'r pwynt yma:

Llafur - colli 4 sedd a -6.5%
Toriaid - ennill 5 sedd a + 4.7%
Lib Dems - colli 1 sedd a + 1.7%
Plaid Cymru - ennill 1 sedd a - 1.3%
Llais y Bobl - colli 1 sedd a -38%.

Ond wir, os na ellir gwneud gwell sioe na hyn pan mae'r blaid lafur ar ei hisaf ers rhai blynyddoedd rhaid gofyn cwestiynau. Y stadegau dyla blog menai a phawb arall ganolbwyntio arnynt ydi'r rhai oedd yn berthnasol i’r seddau roedd gan Plaid siawns o guro ynddynt: Dwyfor, Arfon, Caerfyrddin a Dinefwr, Ynys Mon, Ceredigion, a Llanelli. Pam? Wel mae’n hawdd iawn i’r blaid ddangos codiad mewn pleidleisau mewn rhai or seddau lle meant yn wan, a diolch byth fod hyn yn digwydd a felly mae’n anoddach mesur os ydym yn symud ymlaen yn y gorllewin. Dyma rhair o'r stats diddorol:

Dwyfor – Elfyn Llwyd:

2010: 12,814 a 44.33%
2005: 50.8%
Newid: -6.47

Arfon – Hywel Williams:

2010: 9,383 a 35.98%
2005: 32.1%
Newid: +3.88

Caerfyrddin – Jonathan Edwards:

2010: 13,546 a 35.64%
2005: 45.9%
Newid: -10.26

Ynys Mon – Dylan Rees:

2010: 9,029 a 26.21%
2005: 31.1%
Newid: -4.89

Ceredigion – Penri James:

2010: 10,815 a 28.27%
2005: 35.9%
Newid: -7.63

Llanelli – Myfanwy Davies:

2010: 11,215 a 29.94%
2005: 26.5%
Newid: +3.44

Rwan, yr unig ddwy sedd lle mae’r Blaid wedi tyfu eu canran o'r bleidlais ydi Arfon a Llanelli: Arfon gan fod mai yma mae criw cryfaf ar dir gwlad y Blaid a Llanelli ar ol taflu pop peth at drio llichio Nia allan. Anlwcus criw Llanelli a ymdrech wych.

Felly doedd y perfformiad ddim cystal ag y dyla fo fod. Pam? Dyma fy marn i….

Wel doedd ganddo fawr ddim i neud ar tri clown ar y teledu yn fy marn i a mwy i neud a hyn:

1) Yr Arweinyddion: A’i ni ydi’r unig blaid sydd a 5 arweinydd? Ieuan Wyn, Elfyn Llwyd, Dafydd Iwan, Jill Evans a Dafydd Wigley. Ydi’r 4 arall yno achos fod Ieuan, er yn AC (Ag AS gynt) da yn arweinydd gwan?
2) Yr ymgyrch: Dwi fy hyn wedi gwneud fy’n ngorau i gael ein aelod i mewn a diolch byth am yr aelodau fuodd yn gweithio yn eithriadol o galed a’r dir gwlad ym mhob etholaeth. Does dim bai o gwbl ar yr ymdrech. Yn hytrach, tybiaf y gellir gwneud yn well drwy:

i) Y we. Os ydych yn chwilio am rhywbeth mi wnech mae’n debyg ei “google”. Triwch
google i ffendio gwybodaeth am y blaid. Ydi wrth gwrs ma Plaid neu Plaid cymru yn dod a canlyniad ond be am y rhai oedd dim yn gwybod am y blaid? A wyddoch foe gwefan Plaid heddiw yn dal i ddweud “fotiwch i ni heddiw” am ddiwrnod yr etholaeth!

ii) Cael manifesto cryf a rhyfela tagtegol lleol – dyma yn union sud mae’r blaid lafgur wedi dale u tri cystal.

3) Cael neges clir – wnaeth ein neges y tro yma ddim gweithio o gwbl. Un bai oedd y ffaith fod rhai aelodau yn mynd "off message".
4) Gwneud Plaid yn fwy “relevant” ar gyfer etholiad Llundain.
5) Fotio y myfyrwyr – pam fod y Libs wedi cael atynt gymaint gwell na’r Blaid?

Mae Plaid Cymru yn agos at fy nghalon ond dwi yn wir obeithio nawn ni ddim papuro dros y cracs a cael canlyniad gwael eto y flwyddyn nesaf. Rhaid sbio yn ol, trafod gyda’n gilydd, gwneud gwelliannau a symud ymlaen.

Gyda’n gilydd dros Gymru.

Y Blogiwr Cymraeg.