Sunday 16 May 2010

APV, STV neu FPTP? Pwy sa'n ennil be?

Heb os nag oni bai, am wlad sy'n mynd rownd y byd i ddeud wrth eraill am fyw yn rhydd a democratiaeth, mae system etholiadol Prydain yn warthus o wael. Mae'n system sy'n cau allan pleidiau bach, yn system sy'n gwneud mewn amryw o seddi fotio yn erbyn llafur neu y toriaid yn wastraff ag mae'n system sy'n cynhyrchu canlyniadau od iawn.
Rwan, fedrai ddim dioddef y Cameron gwirion 'ma ond fedrai ddallt pam efallai i fod o mynd i'w wely yn flin ar ol etholiad 2010 a hynnu oherwydd y ffeithiau yma:

Etholiad 2005:
Llafur 35.3% ag ennill 356 sedd
Toriaid 32.3% ag ennill 198 sedd

Etholiad 2010
Llafur 29.0% ag ennill 258 sedd
Toriaid 36.1% ag ennill 306 sedd

Wrth gwrs, fedrith Cameron fawr gwyno chwaith achos mae'r system wedi gweithio yn dda iddyn nhw mewn etholiadau eraill....dyna yn wir pam nad ydynt ishio newid y drefn.

Felly, os di'r system ddim yn gweithio pa optiynau eraill sydd? Mae yna nifer lawer wrth gwrs a dwi ddim am fynd mewn i drafod yr un yn y blog yma (ddim heddiw beth bynnag!!) dim ond i ddweud fod dadl am ag yn erbyn pob system on mae rhai yn sicr yn fwy teg nag eraill. Os a diddordeb mae'r wefan http://www.electoral-reform.org.uk werth golwg.

Be dwi ishio neud heddiw ydi sbio ar pa effaith fasa y 2 system sydd yn cael eu son amdanynt ar hyn o bryd wedi ei gael ar ganlyniad 2010 yma yn ein gwlad fach ni gyda help y wefan dwi wedi son amdani yn barod.

System First Past the Post (canlyniad fel ag y mae o)
Llafur 26
Toriaid 8
Lib Dem 3
Plaid Cymru 3
Arall 0

System Alternative Vote AV
Llafur 25
Toriaid 6
Lib Dem 6
Plaid Cymru 3
Arall 0

System Single Transferable Vote STV
Llafur 16
Toriaid 10
Lib Dem 10
Plaid Cymru 4
Arall 0

Yn glir iawn felly, yma yng Nghymru, mae FPTP yn ffafrio y blaid Lafur yn fawr iawn. Pa system fyddai orau? Blog arall fydd son am hynnu ond yn sicr mae yn bryd am newid. Dwi am orfen hefo syniad o'r canlyniad dan system hollol gyfrannol:

Llafur 14
Toriaid 10
Lib Dem 8
Plaid Cymru 5
Arall 3

Gyda'n gilydd dros Gymru,

Y Blogiwr Cymraeg

No comments:

Post a Comment