Wednesday 19 May 2010

Stiwdants, Blydi Stiwdants!

Mae'n na ddipyn o flynyddoedd di pasio bellach ers pan o ni yn un o'r diawliad stiwdants 'ma a diolch byth am hynnu! Mae meddwl am gario dyled fyddai'n tynnu at £30 mil yn 21 oed yn frawychus......er cofiwch chi, sa ufad llai, bwyta'n gall a gwario llai ar gadgets yn cynilo dipyn ar ddyledion rhai ohonynt!

Rwan, dim blog am ddyledion stiwdants ydi hwn heddiw ond darn i gwestiynnu a ddylai stiwdants bleidleisio yn etholaeth y brifysgol neu yn etholaeth ei cartrefi. Mae'r ateb mae'n debyg yn mynd i wahanu barn ar dir gwlad ond mae'n bwysig ystyried rhai feithiau. Yn wir, mewn etholaethau lle mae'r boblogaeth yn isel ag o dan y drefn FPTP sydd ganddo ni, fe all criw o stiwdants newid canlyniad etholiad yn llwyr.

Os gai, dwi am ddefnyddio Aberystwyth fel tref i drafod gan obeithio na fydd yr un o drigolion Ceredigion yn malio fod na un or gogledd yn busnesu!

Yn ol gwefan Aber Info, roedd poblogaeth Aberystwyth yn ystod 2008 yn 12,258. Yn ystod blwyddyn academaidd 2007/08 roedd gan brifysgol Aberystwyth 13,260 o stiwdants ar eu cyrsiau. O hein roedd 7,820 yn llawn amser ar gweddill yn rhan amser. Mae'n debyg fod canran o tua 30% o'r stiwdants yn byw yn lleol felly gellir nodi cynydd yn y boblogaeth o 75% yn ystod tymor y coleg.

Rwan, da ni gyd yn gwybod na tydi ein stiwdants druan ni yn gweithio blwyddyn llawn. Mae'n debyg fod blwyddyn academaidd yn parhau am tua 35 wythnos o'r flwyddyn sy'n gadael 17 wythnos bach neis o wyliau! Braf de.

Mewn unrhyw flwyddyn etholiad, mae poblogaeth y stiwdants am fyw hefo'r canlyniad am wahanol gyfnod o amser h.y. os am fod yn syml:

Blwyddyn gyntaf: Am dreulio 3 blynedd arall yno (105 wythnos)
Ail flwyddyn: Am dreulio 2 flynedd arall yno (70 wythnos)
Trydydd flwyddyn: Am dreulio 1 flwyddyn arall yno (35 wythnos)

Felly, gyda 9,282 o stiwdants yn Aberystwyth sydd ddim yn byw yn lleol (70% or stiwdants i gyd) a gan nodi yn syml fod yna yr un nifer ym mhob blwyddyn academaidd (3,094) gellir dod i'r canlyniadau fod yr AS yn Aberystywth yn cael ei ethol gan:

- 14% or boblogaeth sydd mond yn byw yno am 40% or tymor seneddol o 5 mlynedd
- 14% or bobologaeth sydd mond yn byw yno am 27% or tymor seneddol o 5 mlynedd
- 14% or boblogaeth sydd mond yn byw yno am 13% or tymor seneddol o 5 mlynedd

Mewn geiriau eraill, mae'r stiwdants yn cael 9,282 o bleidleisiau (43% or cyfanswm) er nad ydi'r rhai sydd ar hawl i bleidleisio mewn unrhyw un etholiad yn byw yno ddim ond am 27% o gyfnod seneddol o 5 mlyndedd.

I mi, dylai'r stiwdants felly gael pleidlais bost a pleidleisio yn eu heolaeth eu hunain. Dim ond dechrau ar y ddadl ydwi yma. Gellir mynd yn bellach a dadlau fod gan stiwdants deddiad i bleidleisio at un blaid neu gilydd etc... yn aml at y Lib Dems gyda canlyniad trychinebus o gael y toriad mewn pwer!

Dwi yn barod i ddarllen i'r gwrthwyneb os oes na stiwdant neu wrth gwrs unrhyw un arall allan yn fana yn anhytuno a mi....

Gyda'n gilydd dros Gymru,

Y Blogiwr Cymraeg

No comments:

Post a Comment