Thursday 13 May 2010

Perfformiad Plaid yn yr Etholiad

Gan mai hwn ydi y blog cyntaf i mi ei 'sgwnnu, gai ymddiheuro o flaen llaw am safon wael fy iaith! Gobeithio y neith pethau wella wrth i mi 'sgwnnu ar hwn yn rheolaidd uda i!!

Yn ol at perfformiad plaid ta a dylwn i neud yn glir fy mod i yn aelod ag yn efnogi’r blaid! Wel wrth edrych ar yr stats am y tro cyntaf effallai y gellir casglu na wnaeth y blaid mor ddrwg a hynnu....yn wir mae blog menai (oclmenai.blogspot) yn codi'r pwynt yma:

Llafur - colli 4 sedd a -6.5%
Toriaid - ennill 5 sedd a + 4.7%
Lib Dems - colli 1 sedd a + 1.7%
Plaid Cymru - ennill 1 sedd a - 1.3%
Llais y Bobl - colli 1 sedd a -38%.

Ond wir, os na ellir gwneud gwell sioe na hyn pan mae'r blaid lafur ar ei hisaf ers rhai blynyddoedd rhaid gofyn cwestiynau. Y stadegau dyla blog menai a phawb arall ganolbwyntio arnynt ydi'r rhai oedd yn berthnasol i’r seddau roedd gan Plaid siawns o guro ynddynt: Dwyfor, Arfon, Caerfyrddin a Dinefwr, Ynys Mon, Ceredigion, a Llanelli. Pam? Wel mae’n hawdd iawn i’r blaid ddangos codiad mewn pleidleisau mewn rhai or seddau lle meant yn wan, a diolch byth fod hyn yn digwydd a felly mae’n anoddach mesur os ydym yn symud ymlaen yn y gorllewin. Dyma rhair o'r stats diddorol:

Dwyfor – Elfyn Llwyd:

2010: 12,814 a 44.33%
2005: 50.8%
Newid: -6.47

Arfon – Hywel Williams:

2010: 9,383 a 35.98%
2005: 32.1%
Newid: +3.88

Caerfyrddin – Jonathan Edwards:

2010: 13,546 a 35.64%
2005: 45.9%
Newid: -10.26

Ynys Mon – Dylan Rees:

2010: 9,029 a 26.21%
2005: 31.1%
Newid: -4.89

Ceredigion – Penri James:

2010: 10,815 a 28.27%
2005: 35.9%
Newid: -7.63

Llanelli – Myfanwy Davies:

2010: 11,215 a 29.94%
2005: 26.5%
Newid: +3.44

Rwan, yr unig ddwy sedd lle mae’r Blaid wedi tyfu eu canran o'r bleidlais ydi Arfon a Llanelli: Arfon gan fod mai yma mae criw cryfaf ar dir gwlad y Blaid a Llanelli ar ol taflu pop peth at drio llichio Nia allan. Anlwcus criw Llanelli a ymdrech wych.

Felly doedd y perfformiad ddim cystal ag y dyla fo fod. Pam? Dyma fy marn i….

Wel doedd ganddo fawr ddim i neud ar tri clown ar y teledu yn fy marn i a mwy i neud a hyn:

1) Yr Arweinyddion: A’i ni ydi’r unig blaid sydd a 5 arweinydd? Ieuan Wyn, Elfyn Llwyd, Dafydd Iwan, Jill Evans a Dafydd Wigley. Ydi’r 4 arall yno achos fod Ieuan, er yn AC (Ag AS gynt) da yn arweinydd gwan?
2) Yr ymgyrch: Dwi fy hyn wedi gwneud fy’n ngorau i gael ein aelod i mewn a diolch byth am yr aelodau fuodd yn gweithio yn eithriadol o galed a’r dir gwlad ym mhob etholaeth. Does dim bai o gwbl ar yr ymdrech. Yn hytrach, tybiaf y gellir gwneud yn well drwy:

i) Y we. Os ydych yn chwilio am rhywbeth mi wnech mae’n debyg ei “google”. Triwch
google i ffendio gwybodaeth am y blaid. Ydi wrth gwrs ma Plaid neu Plaid cymru yn dod a canlyniad ond be am y rhai oedd dim yn gwybod am y blaid? A wyddoch foe gwefan Plaid heddiw yn dal i ddweud “fotiwch i ni heddiw” am ddiwrnod yr etholaeth!

ii) Cael manifesto cryf a rhyfela tagtegol lleol – dyma yn union sud mae’r blaid lafgur wedi dale u tri cystal.

3) Cael neges clir – wnaeth ein neges y tro yma ddim gweithio o gwbl. Un bai oedd y ffaith fod rhai aelodau yn mynd "off message".
4) Gwneud Plaid yn fwy “relevant” ar gyfer etholiad Llundain.
5) Fotio y myfyrwyr – pam fod y Libs wedi cael atynt gymaint gwell na’r Blaid?

Mae Plaid Cymru yn agos at fy nghalon ond dwi yn wir obeithio nawn ni ddim papuro dros y cracs a cael canlyniad gwael eto y flwyddyn nesaf. Rhaid sbio yn ol, trafod gyda’n gilydd, gwneud gwelliannau a symud ymlaen.

Gyda’n gilydd dros Gymru.

Y Blogiwr Cymraeg.

1 comment:

  1. Diolch.

    Mi wna i ymateb yn llawn ddechrau wythnos nesaf - fydda i ddim yn cael llawer o amser i flogio tan hynny mae gen i ofn.

    'Dwi'n cytuno efo rhai o dy sylwadau ond ddim efo eraill.

    Roedd rhai o'r problemau ti'n cyfeirio atynt yn bodoli yn yr etholiadau Cynulliad, Ewrop a chyngor diweddaraf, ond roedd etholiadau hynny'n eithaf llwyddiannus.

    Mae i pob etholiad ei chyd destun ehangach, ac un o nodweddion y cyd destun ehangach hwnnw yn yr etholiad hwn oedd twf sylweddol Toriaidd mewn etholaethau gwledig a thwf llai o lawer mewn rhai trefol. Mae hynny'n rhannol egluro'r gwahaniaeth rhwng Arfon, Aberconwy a Llanelli (trefol at ei gilydd) ar y naill law ac etholaethau'r canolbarth a Mon ar y llall.

    Beth bynnag diolch am y sylwadau - mi geisiaf ymdrin a nhw'n fwy manwl ddechrau wythnos nesaf.

    ReplyDelete